Ymunwch â'r rhestr bostio
Arwyddwch y Ddeiseb
Join the Mailing List
Sign the Petition
Oriel Luniau'r Ymgyrch | Campaign Photo Gallery
Cyfrannu yn ariannol i'r ymgyrch i Achub Ysgol Llanystumdwy
Contribute financially to the Save Llanystumdwy School campaign

Ysgol Llanystumdwy Heddiw
Llanystumdwy School Today

Ysgol Llanystumdwy School 2007

Niferoedd plant | Pupil numbers

Mae'r Cyngor yn honni mai disgyn mae niferoedd plant ar gyfartaledd, ond dangosir y ffigyrau ffeithiol yma stori wahanol iawn am niferoedd disgyblion Ysgol Llanystumdwy.

Yn hytrach na gostwng, mae'r nifer o ddisgyblion sy'n mynychu Ysgol Llanystumdwy wedi mwy na dyblu un y cyfnod amser a ddangosir isod!

Mae 'na 62 o ddisgyblion yn yr Ysgol heddiw, i gymharu a 28 ym Medi 1993: 46 yw capasiti yr Ysgol. Gellir dweud gyda sicrwydd felly fod Ysgol Llanystumdwy yn darparu addysg wych (gweler adroddiad Estyn, isod) i fwy o blant na mae disgwyl iddi wneud.

Yn nhermau ystadegau (rhywbeth mae'r Cyngor yn hoff iawn ohonynt), mae'r Ysgol yn rhedeg yn llwyddiannus ar allbwn o 135%: perfformiad gwych i unrhyw fusnes preifat, heb son am wasanaeth cyhoeddus fel addysg, siwr o fod.

Ni fyddai unrhyw fusnes gydag unrhyw synnwyr masnachol o gwbl yn penderfynnu cau ei siopau sy'n gwerthu orau, oherwydd fod rhai eraill yn yr ardal yn cael trafferth cyrraedd yr un safon. Ond dyma yn union mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu ei wneud drwy roi Ysgol Llanystumdwy ar y rhestr cau.

Mae hyn yn dangos pwysgrwydd edrych ar bob ysgol yn unigol ac yn drylwyr, yn hytrach na mesur a barnu ar sail ystadegau cyfartalog. Wrth reswm, mae defnyddio ffigyrau ysgolion sydd efo cryn dipyn o lefydd gwag yn dod a'r ystadegau cyfartalog i lawr i bob un ysgol, gan greu delwedd sydd lawer iawn gwaeth na'r hyn sy'n wir. Y ffaith yw fod problemau addysg Gwynedd yn llawer iawn mwy lleol - nid problem i bob ysgol ledled y sir ydi hi - mae llawer iawn o'r ysgiolion sydd ar y rhestr cau yn ffynnu ond yn cael eu trin fel eu fod yn fethiannau oherwydd y ffordd y mae Cyngor Gwynedd yn ymdrin a'r sefyllfa.

Os oes 'na ysgolion efo llefydd gwag, yna mae'n glir fod hynny'n broblem. Ond, y ffaith amdani yw fod Ysgol Llanystumdwy yn llawn, mae'r plant yn derbyn addysg wych yma, mae'r adeilad mewn cyflwr da ac mae'r Ysgol yn galon i'r gymuned.

Does dim sail i gau Ysgol Llanystumdwy.

Graff niferoedd disgyblion Ysgol Llanystumdwy | A graph showing pupil numbers at Ysgol Llanystumdwy

The Council claim that pupil numbers are falling on average, but the actual figures show a very different trend for Llanystumdwy School.

As opposed to declining, the school has more than doubled its pupil numbers in the period shown!

There are 62 pupils attending the School today, to compare with 28 in September 1993: the School's capacity is 46. It is fact therefore that Llanystumdwy School delivers excellent edication (see the Estyn Report, below) to more children than it is expected to do so. It is outperforming its most optimistic delivery projections.

Speaking in terms of statistics (something the Council are very keen on), the School is running successfully with an output of 135%: a fantastic performance for any private business, not to mention a public service such as education, surely.

No business with any commercial sense whatsoever would decide to shut down its top performing sales outlets, just because others in the area was not doing so well. Yet that is exactly what Gwynedd Council is proposing by putting Llanystumdwy School on the list for closure.

This highlights the importance of looking at each school individually and thoroughly, rather than comparing and judging on the basis of average statistics. It is obvious that using figures of schools with many emply places will affect the overall statistics for every school, painting an unnecessarily gloomy overall picture. In reality, the problems are far more localised. The Council are approaching the issue with a blanket solution which is totally inappropriate, and this is the reason that many of the schools that are flourishing are earmarked for closure.

If there are schools with empty places, then clearly that is a problem. But, the fact of the matter is that Llanystumdwy School is full, the children receive an excellent all-round education here, the building is in good condition and the School is the heart of the community.

There is no basis on which to close Llanystumdwy School.

Safon Addysg

Heb os, mae safon yr addysg y mae'r plant yn ei dderbyn yn Ysgol Llanystumdwy un uchel iawn. Nid barn rhieni ac athrawon ysgolion uwchradd sy'n derbyn y plant wedi iddyn nhw adael Ysgol Llanystumdwy yn unig yw hyn: mae'r adroddiadau Estyn canlynol yn dangos yn glir fod addysg wych yn cael ei ddarparu yn Ysgol Llanystumdwy.

Adroddiadau Estyn | Estyn Reports

  »  Adroddiad 2005 ~ Fersiwn Gymraeg

  »  The 2005 Report ~ English version

Mae Estyn yn adrodd ar y safonau a gyflawnir gan ddisgyblion, ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol, ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth a’r cyfraniad a wneir gan yr ysgol at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol ei disgyblion.

Defnyddir y raddfa pum pwynt ganlynol gan Estyn i arolygu Ysgol Llanystumdwy:

Crynodeb o'r Arolwg

1. Pa mor dda y mae dysgwyr yn cyflawni? Gradd 2
2. Pa mor effeithiol yw’r addysgu, yr hyfforddi a’r asesu? Gradd 2
3. Pa mor dda y mae’r profiadau dysgu yn cwrdd ag anghenion a diddordebau dysgwyr a’r gymuned ehangach? Gradd 1
4. Pa mor dda yw’r gofal, y cyfarwyddyd a’r gefnogaeth i ddysgwyr? Gradd 1
5. Pa mor effeithiol yw’r arweinyddiaeth a’r rheolaeth strategol? Gradd 2
6. Pa mor dda y mae’r arweinwyr a’r rheolwyr yn arfarnu ac yn gwella ansawdd a safonau? Gradd 2
7. Pa mor effeithlon yw’r arweinwyr a’r rheolwyr wrth ddefnyddio adnoddau? Gradd 2

Barn swyddogol Estyn yw fod Ysgol Llanystumdwy yn 'dda gyda nodweddion rhagorol' a 'gyda nodweddion da a dim diffygion pwysig'.

Ysgol Llanystumdwy School 2007Sut felly gellir dweud fod angen newid y ffordd y mae'r ysgol yn gweithredu? Pa sicrwydd sydd y bydd ysgol newydd yn darparu addysg well o gwbl? Pa sicrwydd sydd nad dioddef fydd y plant o ran addysg mewn ysgol fwy? Ym mha ffordd mae Cyngor Gwynedd yn dweud y bydd ysgol ardal yn gwella ar y canlyniadau gwych yma?

Y cwestiwn mawr yw pa dystiolaeth sydd gan Gyngor Gwynedd fod addysg mewn ysgol fawr yn well na mewn ysgol fach fel y mae'n nhw'n honni? Ydi'r dystiolaeth honno yn bod o gwbl dybed?

Mae Cyngor Gwynedd yn trio gwthio'r newidiadau yma drwadd o dan orchudd hud 'addysg well' a 'does dim na all cynghorydd wneud sy'n bwysicach na gwella bywydau plant'. Edrychwch ar y ffeithiau: mae'n hollol glir fod yr addysg a nifer y disgyblion yn Ysgol Llanystumdwy yn ffynnu fel yn llawer o ysgolion eraill sydd ar y rhestr i gau. Does dim rheswm o gwbl i gau ysgolion bach fel Ysgol Llanystumdwy.

Mae pawb yn sylweddoli fod angen rhedeg Cyngor Sîr yn effeithiol ac effeithlon, ond mae 'na ddau beth na ddylid byth eu cysidro fel 'busnes' fel y gellid pethau eraill: gwasanaethau iechyd ac addysg. Efo bob diwrnod sy'n pasio, mae Plaid Cymru a Chyngor Gwynedd yn colli ein fyddlondeb, ein amynedd a'n pleidleisiau fel etholwyr.

Gofal pia hi hogia! Mae gan y bobl bach lais. Ei ddefnyddio fo wnawn ni.

Mae Cyngor Gwynedd yn son am brofiadau'r plant a mor gyfyngedig ydyn nhw mewn ysgolion bach.

Tybiwn mai mewn ysgolion bach yr addysgwyd nifer helaeth o aelodau Cyngor Gwynedd sy'n penderfynnu dyfodol ein ysgolion bach ni heddiw. Difyr fyddai darganfod sawl un ohonynt sy'n byw mewn pentref lle mae'r ysgol yn cau, sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y cynllun, neu sydd a phlant neu wyrion / wyresau sydd mewn ysgiolion sydd ar y rhestr cau.

Canran uchel neu isel? Be' da chi'n feddwl?

Byd natur yn cynrhychioli barn y bobl

Bob blwyddyn, mae teulu o wenoliaid yn dod yn ôl atom i nythu o dan y feranda yn Ysgol Llanystumdwy; ffaith sy'n rhoi pleaser mawr iawn i'r plant wrth ddysgu drwy weld y teulu bach yn nythu, dodwy, deor, dysgu hedfan a gadael y nyth.

Wenoliaid yn nythu yn yr Ysgol

Mae teulu'r wenoliaid yn dychwelyd bob blwyddyn yn cynrhychioli teuluoedd y pentref yn berffaith: fel y gwnaethom ni, rydym eisiau i'n plant ni ddod yn ôl i'r ysgol i gael eu haddysgu cyn iddynt hedfan oddi yno fel mae'r gwenoliaid yn ei wneud. Mae'n nhw'n haeddu'r cyfleon yr ydym ni wedi eu mwynhau, as os caiff Cyngor Gwynedd eu ffordd, mi fydd hyn yn cael ei ddinistrio.

Pa synnwyr newid trefn sy'n amlwg yn gweithio mor dda yn Ysgol Llanystumdwy? Mae'r ysgol yn ffynnu, ac o'r herwydd mae'r gymuned yn ffynnu.

Plant yr ysgol yn y Gymdeithas | The school children in the community

Cliciwch i chwyddo'r lluniau | Click to enlarge the images

Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 1 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 2 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 3 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 4 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 5 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 6 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 7 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 8 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 9 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 10 Disgyblion Ysgol Llanystumdwy yn y Gymdeithas | Llanystumdwy School Children in the Community - 11