Digwyddiadur yr Ymgyrch yn 2008
2008 Campaign Event Diary
Cofnod o ddigwyddiadau perthnasol i gynllun Cau Ysgolion Gwynedd ac Ymgyrch Achub Llanystumdwy yn 2008
Digwyddiadau o flynyddoedd blaenorol: 2007 | 2006
A record of events related to the proposal to closing Gwynedd schools and the Save Ysgol Llanystumdwy Campaign in 2008
Events of previous years: 2007 | 2006
12.05.2008: Llythyr gan y Gynghrair Ysgolion a Chefnogwyr a anfonwyd at bob Cynghorydd ar Gyngor Gwynedd yn dilyn yr etholiad
Canlyniadau'r Etholiadau Cyngor Lleol 01.05.2008
The 01.05.2008 Local Council Election Results
02.05.2008: Plaid
yn colli cadarnle
» Darllen yr adroddiad ar wefan y BBC
06.05.2008: Llais: Methu cydweithio â Plaid
» Darllen yr adroddiad ar wefan y BBC
02.05.2008: Plaid loses majority in Gwynedd
» Read the report on the BBC website
06.05.2008: Llais Gwynedd group's no to Plaid
24.04.2008: Llythyr gan y Gynghrair Ysgolion a Chefnogwyr at rieni'r ysgolion sydd wedi ymuno a'r Gynghrair
18.03.2008: Ymateb y Gynghrair Ysgolion a Chefnogwyr i’r datganiad i’r wasg a wnaed gan Plaid ddoe
17.03.2008: BBC Report - Delay in primary school shake-up
Has the Council chaged its mind about federalisation! Panic? Anything to do with the elections?
17.03.2008: Adroddiad BBC - Addysg Gwynedd: Gohirio?
Y Cyngor wedi newid eu meddwl am y ffederaleiddio! Panic? Unrhywbeth i'w wneud efo'r etholiadau?
Goeliwch chi ddim mo hyn! - gwaith braidd yn ddiog gan awduron dogfen mor bwysig a phell gyrhaeddol...
Yn gyntaf ewch i dudalen 39 o ddogfen y sir "Ad-drefnu Ysgolion Cynradd" (yr un diweddaraf Ionawr 2008 - mae copi ar gael yma). Tudalen 39: Gwybodaeth Cefndirol ac Ymarferion Da Ysgolion ffedral - Achos 1 Dorset.
Wedyn dilynwch y linc yma i'r we:
http://www.teachernet.gov.uk/CaseStudies/casestudy.cfm?id=389
Air am air yr un fath! Gwaith ymchwil yr awduron felly ydi 'googlio', cut and paste a chyfieithu!
Iawn medde' chi arbed gwaith - ond edrychwch eto:
Tudalen o 2004:
http://www.walterr.hostinguk.com/milton_abbas.htm
Tudalenau o 2005:
http://archive.bridportnews.co.uk/2004/4/9/68452.html
http://archive.bournemouthecho.co.uk/2004/9/22/63091.html
http://archive.dorsetecho.co.uk/2004/3/22/69187.html
Mae un safle o Ysgol Ffedral Dunbury, sef Milton Abbas wedi CAU ers Gorffennaf 2005! Mae dogfen Gwynedd 2008 yn dal i son am rinweddau 4 safle.
Felly heblaw bod hyn yn ymchwil ddiog, mae hefyd yn eironig bod esiampl o arfer dda yr awdurdod yn y pendraw yn union be mae nifer ohonom wedi bod yn ei ddweud, drwy ffedraleiddio bydd un safle yn cau, ac yn hawdd i'w chau.
Yn y linciau i'r we uchod fe welwch hefyd pa mor hyll oedd y ddadl cau safle, cael ei arwain gan lywodraethwyr ffedral, dwy gymuned yn ymladd yn erbyn eu gilydd i ddewis pa un oedd i fynd.
Ymhellach, sylwch hefyd ar drefniadaeth y dosbarthiadau, o safle Ysgol
Dunbury heddiw:
http://www.dunbury.dorset.sch.uk/homepage.htm
Mae cyfnodau allweddol yn cael eu rhannu dros y safleoedd mae'r babanod yn Safle Kingston a Stickland tra mae'r adran Iau yn Whitechurch. Plant yn barhaol allan o'u pentrefi a llawer o deithio - mae quote diddorol ar y safle "the roads are our corridors"!
Felly os defnyddir 'arfer dda' Dunbury, fel yr awgrymir gan yr awdurdod, yn rhywle fel dalgylch Glan y Mor diwedd y daith efallai fydd:
Ysgol Ffedral Bro Plenydd, Llangybi, Chwilog ac Abererch:
Ymhen amser, oherwydd gwasgu cyllidol bydd 'safle' Chwilog yn cau - pendefyniad gan fwyafrif o lywodraethwyr o'r safleoedd mawr, cymunedau Chwilog a 'Berch wedi gorfod ymladd yn chwyrn dros eu 'safle'.
Plant y 3 i 7 oed yr ardal i gyd yn teithio i Langybi neu Abererch a'r plant adran Iau yn teithio'n ddyddiol i Bro Plenydd!
Selogion cyn safle Chwilog yn creu cwilt i gofio'u hanes:
http://archive.thisisdorset.net/2005/6/30/54430.html
Felly 'arfer dda' hynod o ddiddorol i'w rhoi fel esiampl ar dudalen 39!!
Datblygu Cynghrair Ysgolion a Chefnogwyr
» Llythyr a yrrwyd at y Penaethiaid
» Llythyr a yrrwyd at bob Cynghorydd
11.03.2008 - Cyfarfod Pwyllgor Arbed Llanystumdwy | Meeting of the Protect Llanystumdwy Action Group
Cynhaliwyd y cyfarfod yn Ysgol Llanystumdwy ar y 4ydd o Fawrth am 7 y.h.
» Darllen cofnodion y cyfarfod yma
The meeting was held at Llanystumdwy School on March 11th at 7 p.m.
04.03.2008 - Cyfarfod Pwyllgor Arbed Llanystumdwy
Cynhaliwyd y cyfarfod yn Neuadd y Pentref ar y 4ydd o Fawrth 2008 am 8 y.h.
Adroddiad o gyfarfod 'Tynged yr Ysgolion' - 01.03.2008
Report from 'The Fate of Our Schools' meeting - 01.03.2008
Daeth cynulleidfa o 300 i Bwllheli fore dydd Sadwrn. Er gwaethaf y beirniadu llym a negyddol am y cyfarfod yn y wasg yn ystod yr wythnosau diwethaf fe lwyddwyd i greu awyrgylch dawel a chyfeillgar, a chyflwynwyd gwybodaeth ffeithiol ac adeiladol gan y siaradwyr - Bob Dorkins, Twm Prys Jones, Y Cyng. Penri Jones, Y Cyng. Seimon Glyn, Y Cyng. E. Selwyn Griffiths, Myrddin ap Dafydd, Ffred Ffransis a Ieuan Wyn.
Yr oedd Arweinydd y cyngor Richard Parry Hughes a nifer o gynghorwyr eraill sydd wedi pleidleisio o blaid y ddogfen yn bresennol yn y cyfarfod ac fe'i cymeradwywyd gan y cadeirydd am fod yno. Yr oedd amlwg fod honiad y trefnwyr mae "cyfarfod yn edrych tua'r dyfodol yn gadarnhaol, nid yn negyddol" oedd hwn yn gwbwl wir. Gobeithio felly fod y cynghorwyr hyn wedi clywed y gwirioneddau eraill a gafodd eu cyflwyno iddynt mor glir ac effeithiol.
Ar ddiwedd y cyfarfod fe gyflwynwyd cynnig i'r gynulleidfa a chafodd ei basio gyda mwyafrif llethol. Dyma eiriad y cynnig a roddwyd gerbron:
"Yr ydym ni sydd wedi ymgynnull yma yn Ysgol Glan-y-Môr, Pwllheli ar Ddydd Gŵyl Dewi, 2008 yn galw ar Gyngor Gwynedd i roi o'r neilltu yr ymgynghoriad presennol ar ad-drefnu ysgolion cynradd, a llunio cynllun drafft newydd yng ngoleuni'r canlynol:
1. proffiliau ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol o'r ysgolion a'r cymdogaethau; ac asesiadau ardrawiad ieithyddol, diwylliannol a chymdeithasol mewn perthynas â'r ysgolion a'r cymdogaethau.
2. astudiaethau cymharol helaethach er mwyn ehangu'r dewisiadau i gynnwys cydweithio ffurfiol a gwahanol fathau o glystyru ac o ffederaleiddio.
3. barn rhieni a chyrff llywodraethol lleol."
01.03.2008: Cyfarfod Tynged yr Ysgolion
01.03.2008: The Fate of Our Schools Meeting
Trefnodd Cyfeillion Llŷn a Fforwm Llywodraethwyr Llŷn, gyda chynghrair o gefnogwyr, gyfarfod am 10.30 y bore ym Mhwllheli ar Fawrth y 1af. Nid cyfarfod protest oedd hwn ond cyfarfod adeiladol wedi ei alw gyda chefnogaeth cynghrair o sefydliadau, mudiadau, a chyrff sydd am weld ffordd well ymlaen i ddatrys problemau ysgolion cynradd Gwynedd.
Cynigiodd y cyfarfod lwyfan i unigolion/mudiadau gyflwyno ffeithiau newydd/atebion eraill i Drefniadaeth Ysgolion yng Ngwynedd, ac ystyried yr effaith ar yr iaith yn ein cymunedau cefn gwlad.
Ymysg y siaradwyr oedd: Penri Jones, Myrddin ap Dafydd, Ffred Ffransis, Seimon Glyn, Ieuan Wyn, Twm Prys Jones, Selwyn Griffiths, Bob Dorkins.
Y Cadeirydd oedd: Dr. Robyn Lewis
Ymysg y cefnogwyr : Cymdeithas yr Iaith, Mudiad Achub Llanystumdwy, Rhieni Ysgol Manod, Cyngor Cymuned Aberdaron, Cyngor Cymuned Tudweiliog.
Ysgolion: Llidiardau, Abersoch, Pont y gof, Tudweiliog, Edern, Pentreuchaf, Parc, Llanbedrog, Morfa Nefyn, Brithdir, Llwyngwril, Bro Hedd Wyn, Dyffryn Ardudwy, Bryncrug, Rhydyclafdy, Bro Plenydd, Dinas Mawddwy, Y Garlan, Llanllyfni, Foel Gron, Talysarn, Carmel, Felinwnda, Rhiwlas, Borth-y-Gest, Machreth, Clogau, Santes Helen, Yr Eifl, Chwilog, Abererch, Llangybi, Ganllwyd, Llanelltyd, Bronyfoel, Llanaelhaearn, Garndolbenmaen, Beddgelert, Llanystumdwy.
19.02.2008: BBC Report - School supporters vow to fight on
Dydd Mercher 13.02.2008
- Taith Gerdded Cadwn ein Hysgolion: 9yb - Cerdded o Ysgol Croesor draw i Ysgol Llanystumdwy.
- 7yh Noson Cadwn ein Hysgolion - Neuadd Llanystumdwy - Cartilag, Twm Morus, plant yr ysgol. Pris mynediad £3 i oedolion £1 i blant.
Wednesday 13.02.2008
- Save Our Schools Walk: 9am - Walking from Croesor School to Llanystumdwy School.
- 7pm Save our Schools Evening - Llanystumdwy Village Hall - Cartilag, Twm Morus, the schoolchildren. Entry £3 for adults £1 for children.
Cyfarfod Grŵp Arbed Llanystumdwy - 11.02.2008
Nos Lun yn Neuadd Bentref Llanystumdwy am 8 o'r gloch.
» Darllen cofnodion y cyfarfod yma
Save Llanystumdwy Group Meeting - 11.02.2008
Monday evening at Llanystumdwy Village Hall at 8 o'clock.
Taith Gerdded Cadwn ein Hysgolion
Taith Gerdded o Benllyn i Ben-Llŷn...
Dewch i gerdded, Dewch i gefnogi...
Chwefror 11eg / 15fed 2008 (wythnos Hanner Tymor).
Fel y gwyddoch, mae Cyngor Sir Gwynedd wedi gwahodd trafodaeth gyhoeddus ac ymatebion o nawr tan fis Ebrill i'w strategaeth adrefnu ysgolion cynradd y sir. Os gwireddir y strategaeth, gall dros ugain o gymunedau Cymraeg golli eu canolfannau addysg yn gyfan gwbwl, gyda degau eto yn cae eu had-drefnu. Mae Cymdeithas yr Iaith yn mynnu bod atebion yn cael eu llunio sy'n gweddu i anghenion pob cymuned unigol, ac yn annog pawb i ddanfon eu hymatebion at y Cyngor Sir.
Er mwyn hybu hyn, mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal taith gerdded trwy'r sir gan gludo blwch postio mawr i gasglu ymatebion. Byddwn yn galw yn yr ysgolion dan fygythiad ac yn rhannu ein syniadau gyda phobol y fro, ac yn eu gwahodd i ymuno â ni am rhan o'r daith.
Rhaglen:
Llun 11eg Chwefror
- 12.30yp Ymgynnull wrth Ysgol y Parc Bala gan ddechrau cerdded am 1yp.
- 5yp. Cyfarfod byr yng Nghapel Coffa Llyn Celyn lle bydd Heather Jones yn canu'r gan "Colli Iaith, Colli Cymdeithas" gan gyfeirio at Dryweryn. Byddwn yn ymdynghedu i frwydro i sicrhau nad ydym yn colli'n hysgolion.
- 7yh. Cyngerdd Ysgol y Parc - Heather Jones, Dan Puw a phlant yr ysgol. Mynediad £3 i oedolion £1 i blant.
Mawrth 12fed Chwefror
- 9yb Cerdded o Gapel Coffa Llyn Celyn dros y mynydd i Groesor.
- 7yh Cyfarfod Cyhoeddus Ysgol Croesor - gyda Ffred Ffransis, Owain Tudur Owen, Gwibdaith Hen Fran, plant yr ysgol.
Mercher 13eg Chwefror
- 9yb Cerdded o Ysgol Croesor draw i Ysgol Llanystumdwy.
- 7yh Noson Cadwn ein Hysgolion - Neuadd Llanystumdwy - Cartilag, Twm Morus, plant yr ysgol. Pris mynediad £3 i oedolion £1 i blant.
Iau 14eg Chwefror
- 9yb Cyfarfod yn y Ffôr, cerdded draw i Ysgol Llidiardau ym Mhen-Llŷn gan alw heibio i Fryncroes ar y ffordd i gofio am y frwydr honno.
- 7yh Cyfarfod Cyhoeddus Ysgol Llidiardau - Siaradwr gwadd, Myrddin ap Dafydd.
Gwener 15fed Chwefror - DIWRNOD CYFLWYNO'R YMATEBION
- 9yb - 10yb Cyfarfod Cyhoeddus Cyfamserol "Cadwn ein Hysgolion" yn Ysgol Bronyfoel / Baladeulyn.
- 10.30yb Ymgyrchwyr a phlant a chefnogwyr yr ysgolion yn ymgasglu yn Y Groeslon ac yn cerdded at swyddfeydd y Cyngor Sir yng Nghaernarfon.
- 1yp Cyflwyno'r ymatebion i'r Cyngor Sir.
Nos Wener - GIG - Cadwn ein Hysgolion
- Bob Delyn
- Mr Huw
- Pet-Tree
- Dewi Evans
- DJs
yn Cofi Roc, Caernarfon am 8:30yh. Côst: £6.
Am chwaneg o wybodaeth cysylltwch gyda Osian Jones, Swyddog Maes Gogledd Cymru - Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
01286 662908 | gogledd@cymdeithas.org
» Gweld y poster swyddogol
31.01.2008 - 04.02.2008: Y Telegraph yn barnu cynlluniau i gau ysgolion yn Lloegr | The Telegraph criticises proposed school closures in England
» Darllen adroddiad 31.01.2008 | Read the 31.01.2008 report
» Darllen adroddiad 02.02.2008 | Read the 02.02.2008 report
» Darllen adroddiad cyntaf 04.02.2008 | Read the first 04.02.2008 report
» Darllen ail adroddiad 04.02.2008 | Read the second 04.02.2008 report
30.01.2008: BBC (Shropshire) Report - School closures are put on hold
30.01.2008: BBC (England) Report - 'Muddle' on rural school closures
29.01.2008: BBC Report - Public meeting on school closures
29.01.2008: Cyfarfod Llais Gwynedd (Llais y Bobl) | The voice of Gwynedd (The voice of the People) Meeting
Cyfarfod a drefnwyd gan Llais Gwynedd.....Llais y bobl i drafod "Ysgolon Gwledig, Be nesa?" yn Neuadd Mynytho, 29.01.2008 am 7:00yh.
A meeting held by The voice of Gwynedd.....The voice of the People to discuss "Rural Schools, what next?" at Mynytho village hall, 29.01.2008 at 7:00pm.
21.01.2008: Cyfarfod cyhoeddus: ymgyrchu yn erbyn cau ysgolion
Cyfarfod i drafod yn benodol ysgolion pentrefol a taith gerdded Cymdeithas yr Iaith, am 7:30yh yn nhafarn yr Union yn Nhremadog.






