Ymunwch â'r rhestr bostio
Arwyddwch y Ddeiseb
Join the Mailing List
Sign the Petition
Oriel Luniau'r Ymgyrch | Campaign Photo Gallery
Cyfrannu yn ariannol i'r ymgyrch i Achub Ysgol Llanystumdwy
Contribute financially to the Save Llanystumdwy School campaign

David Lloyd George

Cefnogaeth gan Gymdeithas Lloyd George

Support from the Lloyd George Society

  »  Help save Lloyd George's village school

  »  Lib Dem MPs act to help save Lloyd George village school

Cefnogaeth gan Gyfeillion Amgueddfa Lloyd George

Support from the Friends of the Lloyd George Museum

  »  Llythyr 03-12-2007 Letter

23.10.2007: Early Day Motion put forward by the Liberal Democrats - 'DAVID LLOYD GEORGE AND LLANYSTUMDWY SCHOOL'

  »  View the Early Day Motion and the MPs who have indicated their support of it on the UK Parliament website

Hanes Lloyd George ar y wê | Lloyd George's history on the web

  »  The Lloyd George Society

  »  Amgueddfa Lloyd George | The Lloyd George Museum

Sylwadau ar fwriad Cyngor Gwynedd i gau Ysgol Llanystumdwy, gan Gadeirydd ac Ysgrifennydd Cymdeithas Lloyd George

Comments on Gwynedd Council's proposal to close Llanystumdwy School, by the Chairman and Secretary of the Lloyd George Society

As chairman of the Lloyd George Society I am very concerned to hear that the school that he attended might be closed endangering the connection with the area of the great man. Surely there must be some local pride at this connection and an educational value in keeping alive in the school and its pupils the achievements of one of their predecessors, if only as an example of what they themselves might achieve.

W.M.Barritt, Chairman.

Although I am not a resident of the area served by Llanystumdwy School, I am a member of the Lloyd George Society and feel it would be a serious mistake to cut this specific tie between the most eminent Welshman of the 20th century and the community in which he grew up.

Graham Lippiatt, Secretary.

Lib Dem leadership candidate chooses Lloyd George as 'hero'

Both candidates for the current Liberal Democrat leadership election (Nick Clegg MP & Chris Huhne MP) were asked by the Liberal Democrat History Group about their favourite historical figure or figures; the ones they felt had influenced their own political beliefs most, and why they had proved important and relevant. Here is what Chris Huhne MP had to say...

David Lloyd George by Chris Huhne MP

My hero is David Lloyd George. An outsider, with none of the benefits of inherited wealth or education, he became one of the most dynamic and brilliant politicians ever to lead the Liberal Party.

He was a radical to his bones. His early prominence came partly through his campaign against the Boer War. He helped to build an anti-war coalition including not merely the advanced elements of the party, outraged by imperial aggression, but also some of the most conservative and rural elements, who identified with the independent qualities of the Boers.

In government, Lloyd George had a passionate belief in his own ability to cajole and persuade, amply demonstrated during labour disputes as President of the Board of Trade. He was a great speaker, but also a great listener. The two are connected: great speakers have to be ever-sensitive to the moods and motivations of their audiences. As Chancellor of the Exchequer, he was the kingpin of the government's attempt to force through social welfare and overcome the opposition of the House of Lords.

The old age pension is his most durable domestic achievement, and a testament to his New Liberal thinking. The roots of this tradition are the wellspring of Liberal Democrat thinking today, whether coming through the New Liberal - or 'social liberal' - tradition or the social democratic tradition that rejoined us in 1981.

I also find Lloyd George's style as a politician appealing. He was an optimist who believed in the power of ideas to persuade and change the world, and he was always prepared to throw himself into the political battle even when the odds looked stacked against him. He was an anti-metropolitan politician: a believer that the best and purest instincts were to be found in the misty valleys of his beloved Wales, from which he drew emotional strength. Combined with this optimism was a great sense of mischief, captured for me in the marvellous Low cartoon, a copy of which I have on my study wall. Lloyd George is sitting, elfin-like, on the green benches, hugging himself with mirth; never pompous, always able to see the folly and the ridiculousness of power and position.

In the 1930s, he was the only mainstream politician who understood John Maynard Keynes's analysis of the causes of mass unemployment and the only statesman with the vision to banish it. It is the country's loss that he was never given the chance to do so.

Lloyd George remains a figure of controversy, but he had a real and lasting impact, both on the country and on the party. He has the strongest claim to be the father of the British welfare state and he was a great war leader at a time of desperate national need. He brought Liberalism into the twentieth century, adjusting successfully to the new politics of a mass industrial democracy and ensuring that it stood for radical social and economic reform. He has been dead for sixty years - but his record should inspire us all.

Source: Liberal Democrat History Group

Adroddiad gan blant Ysgol Llanystumdwy

Rydym ni yn ddisgyblion mewn ysgol arbennig mewn pentref arbennig. Efallai fod pawb yn credu bod eu pentref a’i hysgol yn arbennig ond mae gennym ni reswm dros wneud fath honiad.

David Lloyd GeorgeMae Ysgol Llanystumdwy yn ysgol Eglwys ac mae wedi ei sefydlu, rydym yn meddwl, yn 1812. Yr adeg honno roedd yr eglwys yn dechrau sefydlu ysgolion i ddysgu darllen ac ysgrifennu i blant tlawd er mwyn iddynt allu darllen y Beibl. Mae’n debyg mae hi yw’r ail ysgol hynaf yng Nghymru sy’n dal i fod yn addysgu plant yn yr adeilad gwreiddiol.

Ond mae gennym reswm arall dros ddweud ein bod yn arbennig gan mai ein ysgol fechan ni yw’r unig ysgol yng Nghymru sydd yn hawlio cyn brif weinidog fel cyn ddisgybl.

Yn Ysgol Llanystumdwy yn unig y bu David Lloyd George hyd y gadawodd i fwrw prentisiaeth fel cyfreithiwr ym Mhorthmadog yn 1878.

Ef yw’r unig gymro i gyrraedd y safle pwysig hon ac mae hi’n 90 mlynedd a mwy ers y daeth y Cymro Cymraeg yma o Lanystumdwy yn Brif Weinidog ar ynysoedd Prydain.

Er taw ym Manceinion yn 1863 y ganwyd David Lloyd George, Llanystumdwy fu ei ‘gartref’ erioed. Dyma fro mebyd ei fam. Yma y bu'n byw o pan yn flwydd oed hyd yn ddwy ar bymtheg.

Bu Lloyd George ymladd llawer brwydr bwysig yn ei fywyd gan ddangos brwdfrydedd a gweledigaeth amlwg. Roedd ychydig o’r rhain yn gorfod digwydd yn yr ysgol. Roedd yr ysgol yr adeg honno yn dipyn gwahanol i’n hysgol ni nawr.

Dyma beth a ysgrifennwyd yn llyfr log Ysgol Llanystumdwy yn 1864 sef y flwyddyn y daeth Lloyd George i fyw i bentref Llanystumdwy...

'must devise some mode of lessening this evil'.

Wel, beth ydych chi’n feddwl mae’r dyfyniad yna yn sôn amdano. Ymddygiad y plant? Pobl yn dod i fyw i’r ardal? Ymddygiad anghymdeithasol? We na, edrychwch ar yr hyn sydd yn dod o’i flaen o.

'great deal of talking in school, mostly welsh'.

Dyma enghraifft berffaith o agwedd pobl ac athrawon y cyfnod tuag at yr iaith Gymraeg. Credu oeddent ei bod hi’n dal y plant yn eu holau ac nad oedd posib mynd yn eich blaenau mewn bywyd yn siarad Cymraeg.

Rydym ni yn ysgol arbennig am ein bod yn dal i siarad Cymraeg yn yr ysgol heddiw er bod ymgais i arbed hyn yn amlwg yn y gorffennol ac mae hyn yn wir am gannoedd o ysgolion Cymru.

Nid oedd y ffaith mai cymro Cymraeg oedd o wedi dal David Lloyd George yn ei ôl chwaith gan iddo wneud enw iddo ef ei hun ar draws y byd fel rhywun a frwydrodd dros hawliau y bobl gyffredin.

Yn yr ysgol yr ymladdodd David Lloyd George ei frwydr gyntaf yn y rhyfel dros "ryddid crefyddol" hefyd pan drefnodd ac arweiniodd brotest yn erbyn dweud y Credo pan ddaeth Rheithor y plwyf ar ei ymweliad blynyddol i wrando ar y disgyblion yn dweud

'I believe in the father almighty...'

Roedd y Rheithor yn dod ar Fawrth y cyntaf, sef diwrnod nawdd sant Cymru wrth gwrs, ond doedd plant Cymraeg Llanystumdwy ddim yn deall fawr ddim ar yr hyn roedd rhaid ei adrodd ac felly mynnodd y Lloyd George ifanc mai distawrwydd yn unig a fyddai’n croesawu y Rheithor. Mae’n debyg i’r plant gael teimlo grym y gansen yn dilyn hyn ond roedd hyn ond yn gychwyn ar daith wleidyddol Lloyd George.

Yn Highgate y magwyd David Lloyd George ac mae y ty nawr yn ran o Amgueddfa Lloyd George a sefydlwyd yn y pentref yn 1960. Wrth ymyl yr Amgueddfa mae neuadd y pentref a Lloyd George ei hun a dalodd am adeiladu y neuadd yna efo £1,000 a gafodd gan bapur newydd a oedd wedi dweud celwydda amdano.

Digwyddodd rhywbeth difyr iawn y diwrnod y cafodd ei agor yn swyddogol.

Daeth Lloyd George i agor y neuadd yn swyddogol ei hunan a daeth aelodau seneddol a phobl bwysig eraill yma hefyd. Roedd Winston Churchill i fod i ddod ond fethodd o a cyrraedd mewn amser.

Wedi i bawb ganu’r anthem genedlaethol, yr wyth mil a ddaeth allan i weld y digwyddiad, siaradodd Lloyd George ac yna gweiddodd rhyw ferched

"Don’t forget votes for women"

a bu mwy o weiddi a gwthiodd y dynion y merched ar lawr neu bygwth eu taflu i’r afon.

Taflwyd un creadures dros glawdd wrth yr hen bost. Roedd rhaid i Lloyd George dawelu y dynion a stopiodd o’r ffrae ar y diwrnod a stopio’r protestio i gyd yn y diwedd trwy rhoi’r bleidlais i ferched.

A doedd yna ddim gymaint o bobl yn Llanystumdwy wedyn tan y claddwyd Lloyd George ar ddydd Gwener y Groglith 1945. Roedd miloedd o bobl yno i’w weld o’n cael ei gladdu wrth ymyl yr afon a’r garreg roedd o yn arfer eistedd arni fel hogyn ar y bedd.

Mae plant yr ysgol yn mynd yna i gael gwasanaeth byr a rhoi blodau ar y bedd ar achlysur ei ben blwydd, Ionawr 17, pob blwyddyn. Yn Ty Newydd i fyny’r lon y bu farw yn edrych allan trwy’r ffenestr. Mae Ty Newydd yn ganolfan ysgrifennu enwog erbyn hyn gyda awduron a beirdd Cymraeg a Saesneg yn cynnal cyrsiau yna trwy’r flwyddyn.

Felly dwi’n meddwl bod gennym ddadl eithaf cryf ein bod yn perthyn i ysgol arbennig mewn pentref arbennig ac mae’n bwysig cofio hynny nawr 90 o flynyddoedd a mwy ar ôl i’r cymro bach o Eifionydd gyrraedd swydd bwysicaf Ynysoedd Prydain.

gan Blant Ysgol Llanystumdwy.

Etifeddiaeth Lloyd George

The Lloyd George Museum, LlanystumdwyMae sicrhau fod Ysgol Llanystumdwy yn cael ei chadw ar agor, mor bwysig i etifeddiaeth Lloyd George a'r Amgueddfa, Highgate - cartref ei blentyndod, Neuadd y Pentref a Thŷ Newydd - ei gartref olaf (sydd erbyn heddiw yn ganolfan ysgrifennu).

Dim llai na amharch hollol i bobl Llanystumdwy ac i'r genedl gyfan o Gymru Cymraeg fyddai cau ysgol ei blentyndod.

Nid trio cau rhyw adeilad di werth sydd ddim yn bwysig i bobl leol mae Cyngor Gwynedd yma - mae nhw'n trio cau calon ein cymuned; rhywbeth sy'n siwr o ledio at ladd ein cymuned.

Mae Ysgol Llanystumdwy yn adeilad sydd yn llawn bywyd, hwyl ac addysg. Yn adeilad hanesyddol pwysig. Yn adeilad ac yn sefydliad nad oes neb eisiau ei weld yn cau.