Ymunwch â'r rhestr bostio
Arwyddwch y Ddeiseb
Join the Mailing List
Sign the Petition
Oriel Luniau'r Ymgyrch | Campaign Photo Gallery
Cyfrannu yn ariannol i'r ymgyrch i Achub Ysgol Llanystumdwy
Contribute financially to the Save Llanystumdwy School campaign

Atgofion o Ysgol Llanystumdwy
Memories of Llanystumdwy School

William Samuel Jones (Wil Sam)

O 1924 i 1930 y bum i yn Ysgol Llanystumdwy. Bryd hynny, roedd plant yn dwad yma o go bell, rhai yn dod o ardal Rhos-lan, a rhai o Benygroes Llanystumdwy a'r ffermydd o gwmpas, a phawb yn cerdded yma yn y bore ac yn ôl wedyn ddiwedd y pnawn. Doedd yna ddim sôn am 'gar cario plant'.

Dŵad a'u brechdana' efo nhw oedd y drefn, pawb yn hongian ei fag ar ei beg yn y "porj bach" wrth ddrws yr ysgol. Roedd y pegiau wedi eu rhifo fel nad oedd yna ddim perig i neb ddrysu brechdanau.

O naw o'r gloch yn y bore i hanner awr wedi tri y pnawn oedd oriau'r ysgol efo awr o ddeuddeg tan un i ginio. Roedd y 'gloch gyntaf' yn canu am chwarter i naw a'r ail am naw yn y bore. Mi fyddai plant Rhos-lan yn clywed y 'gloch gyntaf' o dop allt Caban (Allt y Ranch i blant heddiw). Wedyn mi fyddai na ras nes byddai'r sgidia hoelion yn gwreichioni.

Dau amser chwarae fydda ni'n gael ar wahân i'r awr ginio, un yn y bore tipyn cyn unarddeg. 'Allan funud' fyddan ni'n galw hwnnw er bydda fo'n para deng munud. Caem ddeng munud arall yn y prynhawn. 'Allan dri' oedd enw hwnnw.

Tri dosbarth oedd yn yr 'ysgol bach' yn y pen nesaf at Bwllheli, 'y bebis' gyntaf yn y pen wrth lon bost, yna 'second class', wedyn 'first class' ar y grisiau oedd yn codi yn y pen arall.

Miss Ann Whitington oedd athrawes 'yr ysgol bach'. Roedd hi'n byw yn Nhyddyn Sianel efo'i chwaer Jane a'i brawd Owen. Roedd Miss Whitington (Miss Whitin i ni) wrth ei bodd yn sôn am y damhegion yn y Beibl ac yn gwneud i ni eu hactio nhw, Y Samariad Trugarog oedd un. Byddai'n rhoi un o'r hogiau i orwedd ar lawr yr ysgol a gwneud i ninnau, bump neu chwech, gerdded heibio fo yn ffroen uchel. Wedyn mi ddoi y Samariad a deud "Helo ngwas i, yn fan'ma yn y ffos wyt ti?" a'i godi o ar gefn mul a mynd a fo adra i dy mawr crand ar y grisiau 'first class' a rhoi bwyd a diod iddo fo. Ia lle difyr oedd yr ysgol bach!

Yr athrawon yn yr ysgol fawr oedd Mr Ifor Pritchard, y Prifathro a fu'n byw yn y Caban (Llwyn) cyn symud i Dŷ'r Ysgol. Mr Iorweth Jones o Benygroes Llanllyfni fyddai'n dod ar ei foto-beic a'i gadw'n stabal Ty'n Llan, Miss Mary Jones, Tŷ'n Weirglodd, Llanystumdwy (Mrs Rowlands wedi hynny) a mi fuo yma ferch ifanc, Kate Roberts, fel 'pupil teacher' am gyfnod byr.

Rhaid sôn gair am Mr Griffiths oedd yn Brifathro yma pan oedd Mr Pritchard, bryd hynny, yn athro am y partisiwn gwydr ag o. Yn Nhŷ'r Ysgol roedd o'n byw. Dyn cloff wrth ei ffon oedd o, ac yn gwisgo siwt 'Harris Tweed'. Fuo fo 'rioed yn fy nysgu i ond rydw i'n cofio ei weld o wrth ei ddesg a Don y ci du wrth ei draed. Un o Lanidloes oedd Mr Griffiths ac yn siarad yn wahanol i ni. "Paid a sengi'r ychydig rwbab sy gyda fi," medda fo wrth rhywun oedd yn tresbasu yng ngardd yr ysgol. Roedd o'n cadw gwyddau mewn cytiau tu ôl i weiren neting ar gae yr ysgol. Byddai'r cywion gwyddau'n dod allan i'r cae chwarae ar eu tro a'r Mistar yn gweiddi ar un o'r hogia "Dere i gau ar y goslings yr hen benci ben papur." Roedd ganddo gar, un hen ffasiwn 'Turner' efo pen meddal, 'hood'. Yn hwn y bydda fo yn cario pys a ffa a ffrwytha o ardd yr ysgol i'w gwerthu yng Nghricieth.

Ia, lle braf oedd ysgol y pentra, ni yn cael mynd allan dim ond i ni godi llaw a gofyn 'Plis go owt?' ag amball i ŵydd yn cael dŵad i mewn heb godi llaw na gofyn!

 


Er côf annwyl iawn am Wil Sam ~ 1920-2007.
Diolch yn fawr am y gymdogaeth, ac am eich cyfraniad hollbwysig i lenyddiaeth Gymraeg.
Yn barchus iawn, Trigolion Pentref Llanystumdwy.