Bwriad Cyngor Gwynedd
Gwynedd Council's Intention
Adroddiad Trefniadaeth Ysgolion Cynradd Gwynedd a fabwysiadwyd ar y 25ain o Hydref, 2007:
- 1. Rhaglen
- 2. Cofnodion Cyfarfod Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc
- 3. Cynllun Trefniadaeth Ysgolion (Yr Adroddiad)
- 4. Atodiad 1 - Astudiaethau Achos Ysgolion Ffederal
- 5. Atodiad 2 - Cyfrifoldebau Penaethiaid
- 6. Atodiad 3 - Astudiaeth Achos Ysgolion Estynedig & Clwstwr
- 7. Pennod 7 - Manylion y Cynllun Cyfansawdd
Ffurfiodd adroddiad yr ymgynghorydd Roy James rhan o adroddiad y Gweithgor Gwella ar Drefniadaeth Ysgolion i’r Pwyllgor Craffu Datblygu ym Medi 2005:
Yr Adroddiad terfynnol a i'r Cyngor gysidro ar y 13eg o Ragfyr 2007:
Beth yn union mae Cyngor Gwynedd yn ei gynnig?
What exactly is Gwynedd Council proposing?
Cau 29 o ysgolion yng Ngwynedd a sefydlu 8 ysgol ardal
Closing 29 schools in Gwynedd and establishing 8 area schools
Dyma restr llawn yr ysgolion fydd yn cael eu heffeithio os caiff y Cyngor eu ffordd:
Here is the full list of the schools which will be affected if the Council have their way:
- Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth
- Ysgol y Garreg, Llanfrothen
- Ysgol Croesor, Croesor
- Ysgol Dolgellau, Dolgellau
- Ysgol y Clogau, Bontddu, Dolgellau
- Ysgol Manod, Blaenau Ffestiniog
- Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog
- Ysgol Bryncrug
- Ysgol Llwyngwril
- Ysgol Llanegryn
- Ysgol Abergynolwyn
- Ysgol Aberdyfi
- Ysgol Llawrybetws
- Ysgol y Parc
- Ysgol Rhydyclafdy
- Ysgol Llidiardau
- Ysgol Nefyn
- Ysgol Morfa Nefyn
- Ysgol Abersoch
- Ysgol Borth-y-gest
- Ysgol Treferthyr, Cricieth
- Ysgol Llanystumdwy
- Ysgol Baladeulyn, Nantlle
- Ysgol Bron-y-foel
- Ysgol Abercaseg
- Ysgol Penybryn
- Ysgol Bodfeurig
- Ysgol Tregarth
- Ysgol Rhiwlas
Ysgolion ardal newydd / New area schools
- Ardal Penrhyndeudraeth
- Ardal Dolgellau
- Ardal Blaenau Ffestiniog
- O bosib ger Bryncrug
- Ardal Nefyn
- Ardal Cricieth
- Ardal Bethesda
- Ardal Tregarth
Ysgolion ardal ar safleoedd presennol / Area schools on present sites
- Penybryn
- Aberdaron
- Porthmadog
Ysgolion ffederal / Federal schools
- Ysgol Dyffryn Ardudwy, Llanbedr, Talsarnau, Tanycastell
- Ysgol Brithdir, Llanfachreth, Ieuan Gwynedd, Dinas Mawddwy
- Ysgol Bro Cynfal, Edmwnd Prys, Bro Hedd Wyn, Tanygrisiau
- Ysgol Pennal, Dyffryn Dulas
- Ysgol Tref Bala, (Bro Tegid, Beuno Sant)
- Ysgol Chwilog, Abererch, Llangybi, Bro Plenydd
- Ysgol Eifl, Llanaelhaearn, Pentre Uchaf
- Ysgol Edern, Tudweiliog, Pontygof
- Ysgol Sarn Bach, Llanbedrog, Foelgron
- Ysgol Gorlan, Garndolbenmaen, Beddgelert
Ysgolion lle na fydd newid / Schools where there will be no change
- Ysgol y Traeth
- Ysgol Cymerau
- Ysgol Bro Lleu
- Ysgol Bontnewydd
- Ysgol Waunfawr
- Ysgol Gelli
- Ysgol Hendre
- Ysgol Maesincla
- Ysgol Glancegin
- Ysgol y Garnedd
- Ysgol Felinheli
- Ysgol Llandygai
- Ysgol Hirael
- Ysgol y Faenol
- Ysgol Cae Top
- Ysgol Llanrug
- Ysgol Bethel
- Ysgol Dolbadarn
- Ysgol Llanllechid
Beth fydd effaith hyn?
Yn syml iawn: diwedd cymunedau Cymraeg a Chymreig. Dim llai. O bosib, dyma ddechrau diwedd yr iaith Gymraeg.
What will the effect of this be?
Very simply: the end of our Welsh communities. No less. It is possible that this will be the beginning of the end for the Welsh language.
Y cynllun yng ngeiriau'r Cyngor
Mae Bwrdd Gweithredol Cyngor Gwynedd wedi rhoi caniatâd i swyddogion ymgynghori ar newidiadau sylweddol i drefniadaeth ysgolion cynradd y sir.
Mae’r adroddiad a gyflwynwyd i'r Bwrdd yn nodi fod y newidiadau hyn yn angenrheidiol os am gynnal y safon addysgu uchel sydd yng Ngwynedd ar hyn o bryd, a sicrhau bod holl blant Gwynedd yn derbyn y cyfleon gorau posib waeth lle maen nhw’n byw.
Yn dilyn penderfyniad unfrydol Bwrdd Gweithredol trawsbleidiol Cyngor Gwynedd, bydd gan holl Gynghorwyr y Sir y cyfle yn awr i ystyried yr adroddiad yn ystod cyfarfod o’r Cyngor Llawn ar 13 Rhagfyr. Os bydd yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu, bydd cyfnod o ymgynghori ar y cynigion manwl yn cychwyn yn Ionawr 2008.
Mae’r adroddiad yn argymell sefydlu 3 ysgol ardal ar safleoedd sy’n bodoli’n barod, adeiladu 8 ysgol ardal newydd ar safleoedd newydd, sefydlu 18 ysgol ffederal yn seiliedig ar safle 55 o ysgolion presennol, a gadael 19 ysgol fel ag y maen nhw. Pe bai’r argymhellion yn cael eu mabwysiadau, byddai gan Gwynedd gyfanswm o 48 ysgol wedi eu lleoli ar 85 safle, yn hytrach na’r 106 safle presennol.
Os bydd y cynnig yn cael ei weithredu, bydd 70% o blant ysgolion cynradd Gwynedd yn elwa o gynnydd yn nyraniad y cyllid sy’n cael ei fuddsoddi yn eu haddysg. Ar yr un pryd, bydd £30 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn rhaglen fuddsoddiad mewn 8 ysgol ardal newydd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Richard Parry Hughes:
“Rydym yn hyderus y gall y cynigion sy’n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad greu model a fydd yn llwyddo i gwrdd â gofynion holl blant ysgolion cynradd Gwynedd a chymunedau’r sir yn y 21ain Ganrif.
“Mae Gwynedd yn anelu i gadw cymaint o ysgolion cymunedol cynaliadwy â phosib ar agor, ac ar yr un pryd yn sicrhau bod yr adnoddau prin sydd ar gael gan y Cyngor yn cael eu buddsoddi yn addysg plant yn hytrach nag ar lefydd gweigion mewn ysgolion ac adeiladau anaddas fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.
“Yn wahanol i siroedd eraill, nid ydym yn ystyried cau pob ysgol gyda llai na rhif penodol o ddisgyblion. Yn wir, byddai’r cynigion yr ydym yn eu hystyried yn golygu y byddai nifer o ysgolion bach gwledig yn aros ar agor.
“Fel Bwrdd, rydym wedi gwrando ar yr awgrymiadau adeiladol sydd wedi eu rhoi gerbron gan Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor. Rydym wedi gofyn i swyddogion gomisiynu astudiaeth adrawiad ieithyddol ac i lunio cynllun ymgynghori manwl a fydd yn rhoi amser i drafodaeth gyhoeddus ar y strategaeth a’r cynigion unigol.
“Rwy’n croesawu’r ffaith bod gennym ni, am y tro cyntaf erioed, gynigion cadarn ar y ffordd ymlaen, a bod y cynigion hyn eisoes wedi ysgogi trafodaeth iach yn ystod y cam cynnar hwn yn y broses.
“Os bydd yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn, byddwn yn symud i gyfnod o ymgynghori ar y cynlluniau hyn ar lefel leol. Yn ystod y cam allweddol hwn o’r broses, bydd cymunedau lleol yn cael y cyfle i fynegi eu barn am yr hyn sy’n cael ei gynnig ar gyfer eu hardal hwy, ac i gyfrannu’n llawn i’r broses o ddarparu strwythur newydd a chynaliadwy ar gyfer ysgolion cynradd Gwynedd.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Strategol Datblygu Cyngor Gwynedd – Iwan Trefor Jones:
“Yn syml, nid yw strwythur presennol ysgolion cynradd Gwynedd yn gynaliadwy
os ydym am barhau i ddarparu’r addysg o’r safon uchaf posib i bob
disgybl ysgol gynradd yng Ngwynedd am ddegawdau i ddod.
"
Mae nifer disgyblion wedi gostwng 9% ers i ardal bresennol Cyngor Gwynedd
gael ei ffurfio yn 1996. Rhagwelir cwymp pellach o 9% yn ystod y degawd nesaf.
O ganlyniad, bydd yr arian y mae Gwynedd yn ei dderbyn i’w wario ar
addysg gynradd hefyd yn disgyn.
“Ar yr un pryd, mae Gwynedd yn gwario £850,000 ar y 2400 o lefydd gweigion mewn ysgolion, a disgwylir i’r ffigwr hwn godi i £1.2 miliwn yn ystod y blynyddoedd nesaf.
“Os bydd y cynigion yn cael eu mabwysiadu, bydd £30 miliwn yn cael ei fuddsoddi i ddatblygu 8 ysgol ardal newydd, tra bydd arian pellach sy’n cael ei wario ar adeiladau anaddas ar hyn o bryd yn cael ei wario ar gynnal a gwella adeiladau presennol i safon uchel.”
The proposal in the Council's own words
Gwynedd Council’s Executive Board has given the go-ahead for officers to consult on significant changes to the county’s primary school organisation (20 November, 2007).
The report presented to the Board notes that these changes are required to maintain Gwynedd’s current high educational standards and to ensure that all Gwynedd children receive the best possible opportunities regardless of where they live.
Following the unanimous decision of the cross-party Council Board, all Gwynedd Councillors will now have the opportunity to consider the report at a meeting of the Full Council on 13 December. If the report is adopted, a period of consultation on the detailed proposals will begin in January 2008.
The report recommends establishing 3 Area Schools on existing school sites, building 8 new Area Schools on new sites, establishing 18 Federal Schools based on 55 existing school sites and leaving 19 schools unchanged. If the recommendations are adopted, this would mean that Gwynedd would have a total of 48 schools located on 85 sites rather than the present 106 sites.
If the proposals are implemented, 70% of Gwynedd’s primary school children will benefit from an increase in the allocation of funding invested in their education. At the same time, £30 million will be invested in a programme of investment in 8 new Area Schools.
Council Leader Councillor Richard Parry Hughes said:
“We are confident that the proposals outlined in this report will deliver a new county-wide primary school model capable of meeting the needs of Gwynedd’s primary children and individual communities in the 21st century.
“Gwynedd’s aim is to keep open as many sustainable community schools as possible whilst ensuring that the limited resources available to the Council are invested in educating children rather than empty classroom places and unfit buildings as is currently the case.
“Unlike other counties, we are not looking to close small schools with less than a certain number of pupils. Indeed, the proposals we are considering would result in a number of small rural schools remaining open.
“As a Board, we have listened to the constructive suggestions that have been presented by the Children and Young People’s Scrutiny Committee. We have requested that council officers commission a language impact study and draw up a detailed consultation plan that will allow time for a full public debate on the strategy and the individual proposals.
“I strongly welcome the fact that, for the first time ever, we now have firm proposals on the way forward and that these proposals have already stimulated a considerable amount of healthy debate at an early stage of the process.
“If the report is adopted by the Full Council, we will move to a period of detailed discussions of these plans on a local level. At this vital stage of the process, local communities will have the opportunity to express their views on what is being proposed for their particular area and to contribute fully to the process of delivering a sustainable new structure for Gwynedd’s primary schools.”
Gwynedd Council’s Strategic Director – Development Iwan Trefor Jones added:
“Gwynedd’s existing schools structure is simply not sustainable
if we want to continue to deliver the highest possible standard of education
for every Gwynedd primary school child in the decades to come.
"
Pupil numbers have decreased by over 9% since the present Gwynedd Council
area was formed in 1996. A further 9% fall in numbers is forecast over the
next decade. As a result, the amount of money Gwynedd receives to spend on
primary education is also falling.
“At the same time, the amount Gwynedd spends on 2400 empty primary school places stands at £850,000 and is expected to increase to £1.2million per year over the next few years.
“If these proposals are adopted, £30 million will be invested in the development of 8 new Area Schools whilst further funding and money currently spent on unsuitable buildings will be ploughed into maintaining and improving remaining school buildings to a high standard.”






