Ymunwch â'r rhestr bostio
Arwyddwch y Ddeiseb
Join the Mailing List
Sign the Petition
Oriel Luniau'r Ymgyrch | Campaign Photo Gallery
Cyfrannu yn ariannol i'r ymgyrch i Achub Ysgol Llanystumdwy
Contribute financially to the Save Llanystumdwy School campaign

Barn y Gymuned Leol ac Eang
Local and National Opinion

Dyma'r lle i fynegi eich teimladau ynglyn a'r bwriad i gau Ysgol Llanystumdwy

I gael dweud eich dweud, gyrrwch eich sylwadau i .

This is the place to share your thoughts about the intention to close Llanystumdwy School

To have your say, send your comments to .

Adroddiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Hydref 2007)
Report by the Welsh Language Society (October 2007)

  »  Ysgolion Pentre - Yr achos dros Resymoli Cadarnhaol

Atgofion o Ysgol Llanystumdwy gan gyn-ddisgyblion adnabyddus
Memories of Llanystumdwy School by famous ex pupils

  »  William Samuel Jones (Wil Sam)

Yr effaith ar gymuned | The effect on the community

  »  Y Carnifal blynyddol | The annual Carnival

  »  Cefnogaeth Cyngor Cymuned Llanystumdwy (Llanystumdwy Community Council's support)

  »  Cefnogaeth Gwynedd Gynaladwy (Sustainable Gwynedd's support)

Darparu addysg at anghenion arbennig | Special needs catered for

During the Manylu programme on BBC Radio Cymru at 6:00pm Monday evening 05.11.2007, Richard Parry Hughes, Leader of Gwynedd Council stated as fact that there was not one pupil at Llanystumdwy School with special needs, nor were any children having free lunches and that Llanystumdwy was therefore a privileged area.

To comment briefly on the second point: as opposed to being privileged, the parents of Llanystumdwy are good, decent, hardworking, honest people (an issue raised in a letter to Mr Hughes by one parent - read it here) who take pride in their children's education. Surely this is a shining example of how different members of society should be co-existing and working together for the benefit of all members and their community, rather than something to be looked down upon, Mr Hughes? When all the focus nowadays seems to be on the importance of building and maintaining communities, why are Gwynedd Council so hell-bent on destroying ours and others in the county?

As for the first point: unfortunately Mr Hughes' facts about Llanystumdwy are clearly either misinformed or based on out of date statistics. Special needs provision is in place at Llanystumdwy school Mr Hughes, as you will find if you read:

  »  Nathan's place at Llanystumdwy School

What chance does the Council have of convincing anyone that the school closure plan is a good idea (which it is not) if they can't even be bothered to get the most fundamental statistics right?

Cau Ysgolion > Lladd CymunedauCai Larsen, Caernarfon

Byddai colli'r ysgol hanesyddol hon yn hergwd sylweddol i bentref Llanystumdwy. Treuliais dair blynedd hapus iawn yn bennaeth ar y sefydliad yma, gan ddod i adnabod cymuned ddiddorol, bywiog a Chymreig.

Mandy Kirkham, Kent

What about the children? This is their education they plan to disrupt, is this in the national curriculum!? With such a fantastic school offering the children not just schooling but a community. Their foundations within this school. What effect is this having on them, and their parents, and the history of the villiage.

Gwyn Eiddior, Garndolbenmaen

Byddai'n anos ar holl sefydiadau Llan pe bai'r ysgol yn cau; cam cyntaf i farwolaeth y pentref, un sydd mor fywiog ar hyn o bryd.

Valerie Rose, Ramsgate

As with every child; parents, family & friends want the best possible schooling for their children. Llanystumdwy school may not be as modern as others but, it gives an excellant grounding for all the chridren who attend the school. Pupils flourish under the teaching staff there and with all the connected activities not only in school but in the villiage. We currently have two granddaughters attending the school and thoroughly enjoy Grandparents day, to which we are invited, where we are shown a variety of activities by the children not only at school but in the villiage hall. To lose this school will be a great blow and a dis-service, not only to the chrildren of the villiage but also children from the surrounding areas where parents bring their children to study with the Llanastumdwy children, because they believe, as we do, that it is the best possible school for them to be. Please, please help to keep the school open. Thank you.

Hanna Hughes, Llanystumdwy

Wrth fod yn gyn-ddisgybl o'r ysgol, fedrai'm meddwl am ddim gwaeth na cau'r ysgol! Ma' angan sbio ar 'u penna' nhw!

Michael John Hughes, Llanystumdwy

Peidiwch a cau'r ysgol, mae hi'n rhan o'r gymdeithas.

Yvonne Lloyd-Jones, Abersoch

Byddai caniatau cau Ysgol Llanystumdwy godi cywilydd mawr am genedlaethau i ddod.

Angela Hughes, Worcester

Although I do not live in the village any more I do feel the closure of the school would be a great loss for such a close knit community! Who will want to bring up children in a village where there isn't a school?

This school was my primary school and played a vital part in my learning! Not only will the closure affect the children who attend the school now it will also affect the children of the future. I am also sure it will affect the people who attended the school as youngsters as I'm sure they have very fond memories. So, please save our school!!

Ann Gilpin, Cricieth

Ysgol bach ardderchog. Plant y bobol leol i gyd yn mynd yna. Y gymuned a dyfodol yn y fantol.

Malcolm Hamilton, Llanystumdwy

Mae pedair cenhedlaeth o’m teulu wedi mynychu Ysgol Llanystumdwy a chredaf i bawb ohonom gael cychwyn arbennig ar daith bywyd ac mewn addysg.

Mae’n ymddangos i mi mai’r prif reswm dros gau Ysgol Llanystumdwy yw fod angen ysgol newydd yng Nghriccieth. Pam fod yn rhaid i blant ardal Llanystumdwy aberthu eu cymuned a’u hiaith er mwyn cyflenwi anghenion trigolion Criccieth? Yn sicr ni fydd rhaid aros yn hir hyd nes y bydd plant y pentref wedi eu Seisnigeiddio.

Os gwn i a ddaw’r Cyngorydd Dafydd Iwan draw i Lanystumdwy i gefnogi ein hymdrech i gadw’n hysgol ni ar agor fel y gwnaeth ym Mryncroes rai blynyddoedd yn ôl – go brin!!!

Os derbynnir yr adroddiad hwn ai dyma fydd diwedd Plaid Cymru fel parti gwleidyddol yng Nghymu?

Erfynnaf ar i Gynghorwyr Gwynedd wrthod derbyn yr adroddiad fel sail i’r broses ymgynghori pan ddaw gerbron y Cyngor ar 13 Rhagfyr 2007.

Ian Parri

Pwy fasai am fagu teulu mewn pentref heb ysgol??

June Jones

Gwasanaeth yw addysg nid busnes, does dim pris ar gymuned.

David and Marie Hudgell

We express our concern at the proposed closure of Llanystumdwy School. Our daughter attended this school, then under the tuition of Mr Larson and Mrs Thomas and this gave her a solid primary education, and she is now studying translations and interpretations at university. We firmly believe that she would not have been advantaged by being in a larger school where children would be recognised by number rather than name. Small intimate classes must have a huge advantage over the larger classes where teachers spend more time in behaviour control rather than their true function of providing solid education, and know their pupils and their individual needs.

Llanystumdwy is also a community asset whereby parents are invited to partake in school activities. Both Marie and myself gave time to listen to children's reading in the English language, which not only helped the children to understand what they were reading, but as a bonus also helped us with our grasp of the Welsh language.

For my part I also availed my workshops for handicraft sessions, and also trained the touch rugby team. I hasten to add for a small school we had a good measure of success at the local competitions.

We must also remember that Ysgol Llanystumdwy has deep historical value with the Lloyd George connection, and this alone would be a pity to lose such a wonderful building into the hands of planners and their ilk.

To close Ysgol Llanystumdwy would be a social disgrace, and from us gets a big NO.

Anna Jones, Abersoch

Sefwn yn gadarn a gwrthwynebwn. Mae Cyngor Gwynedd wedi troi cefn ar y bobl. Iaith a diwylliant yw un o brif flaenoriaethau'r Cyngor meddai Richard Parri Huws... sgersli bilif! Mae cau ysgol fel Llanystumdwy... ysgol gymunedol yn gwrth ddweud hyn i gyd.

Rydym ninnau yn Abersoch yn ymladd. Dyma'r pentref mwyaf ym Mhen Llŷn. Mae mwy o blant yn dod i mewn, mae gennym neuadd a maes parcio... yn groes i ddatganiad yr adroddiad... Mae Cyngor Gwynredd yn falch iawn o'r trethi a gant o Abersoch ond eto am ei throi yn le pleser yn unig trwy gau'r ysgol, a'n hel ninnau i rhyw gornel i farw gyda'n hiaith.

Sefwn yn gadarn.

Anonymous

I can't believe that they would close down such a fantastic school that is doing so well to educate the children. Not just a villiage school, but a community.

Myfanwy Humphreys, Garndolbenmaen

Brwydrwch ir eithaf i gadw calon eich cymuned.

Emma Roberts, Pwllheli

I'm happy to support this campaign... My first school was a small village school. By the time I left at 6 years old my reading age was that of a 10 year old. Within a single year at a larger school my reading age had dropped to that of my actual age - enough said!!!

Gill Haywood, Cricieth

Closing this school will not only close down a community, it will mean no more interaction between schools - sports days, football matches, music festivals etc etc, and building a school further away will mean more cars and more pollution to get the kids to school.

Emma, Cricieth

Ysgol Llanystumdwy has given my nephew an education he otherwise may not have had. He has aspergers syndrome and the school has given him support and care throughout.

Dafydd, Ffion ac Ifan Huw - Llanystumdwy

Fel cyn ddisgyblion a disgybl presennol yn yr ysgol rydym yn gweld pwysigrwydd yr ysgol mewn cymuned fel Llanystumdwy. Mae hi'n ysgol mor lwyddiannus, ac mae safon uchel o addysg yno. Yn bendant cynyddu mae'r nifer nid lleihau! Rydym wedi treulio blynyddoedd hapus iawn yn yr ysgol, heb ysgol Llanystumdwy ni fydd dyfodol i'r pentref.

Dim ysgol.....Dim cymuned......Dim dyfodol

Alan Evans o Crookham Village, Hampshire

Mae'n siomedig fod ysgol fel Llanystumdwy ar fygwth o gau. Mae'r sylw y mae'r plant yn ei gael a'r safon o ysgoloriaeth yn arbennig o dda, ac mae'n hen bryd i'r Cyngor roi eisiau y plant o flaen eisiau ariannol. Mae na sawl aelod o fy nheulu wedi cael eu dysgu yn Llanystumdwy, ac mae na ddau o blant fy chwarer yn dal i fod yno, ac mae nhw i gyd wedi, ac yn cael, eu trin yn arbennig o dda ac mi fyddai'n anghyfiawn i wadu pobl leol o'r ysgol arbennig yma.

John a Gwenno Parry o Lanystumdwy

Mae'n bwysig gadael yr ysgol yma yn agored er mwyn sicrhau dyfodol y gymuned ac addysg dda mae'r plant yn dderbyn yn yr ysgol hapus a chlos yma.

Di-enw

Does dim rheswm cau yr ysgol, mae'n ysgol ardderchog a buasai yn lladd y gymuned petai'n cau.

Elen Prys Thomas o Lanystumdwy

Plis peidiwch a cau ein ysgol. Elen (6 oed).

Ana Prys Thomas o Lanystumdwy

'Rwyf yn hapus yn Ysgol Llanystumdwy. Mae'n braf medru cerdded i'r ysgol bob bore gyda fy ffrindiau. Gobeithio y caiff babis bach y pentref yr un profiad. Plis peidiwch a cau ein ysgol.

Euros Davies o Rosfawr

Pa synnwyr cau ysgol wledig gymunedol gref sydd yn hybu ac yn hyrwyddo'r iaith ac yn meithrin ein dyfodol? Pa blaid fyddai'n ddigon gwirion i fygwth dyfodol ysgol mor lewyrchus tybed? Onid gwarchod ein cymunedau, ymfalchio yn ei chymreictod a'i hamddiffyn i'r carn dylsai Plaid Cymru?

Einir Davies o Rosfawr

Methu credu bod Cyngor Gwynedd dan arweinyddiaeth Plaid Cymru yn rhwygo'r galon o gefn gwlad Gwynedd i fath raddau.

Anonymous

I feel very strongly that local village schools are at the very heart of our rural communities. Whilst I appreciate that it isn't always possible to keep every single village school open it seems crazy to close a school such as Ysgol Llanystumdwy which has a sizeable number of pupils,a very good reputation, and one which scored so highly in the last school inspection. I understand that on paper it would seem sensible to amalgamate it with Criccieth but bigger isn't always better.Having moved to Pen Llyn 23yearsago from the Wirral my own children had a wonderful education at Ysgol Abersoch and Ysgol Sarn Bach, both of which have smaller numbers of pupils than Ysgol Llanystumdwy. There is no doubt that our children get a better start in life when the class sizes are smaller, hence the reason some parents choose private education.Our village schools really are at the heart of any community and Gwynedd Education Commitee should think very carefully before condemning our local communities to becoming nothing more than just somewhere to live.

Gwenan Dwyfor Roberts o Garndolbenmaen

Byddai'r pentref yn marw ar ei draed pe baent yn cau ysgol Llanystumdwy. Mae cadw ysgolion bach cefn gwlad yn angenrheidiol er mwyn cadw'r gymuned a'r iaith Gymraeg yn fyw!

Gwenda Roberts o Lanystumdwy

Mae Ysgol Llanystumdwy yn ganolbwynt i 'r gymuned leol. Yn sicr dyma galon y gymuned.Byddai cau Ysgol Llanystumdwy i ddyfynu Arthur Thomas yn Y Cymro'26 Hydref,2007 ynrhwygo'r galon allan o bentref Llanystumdwy.

School Closures > Kill CommunitiesCarys Jones o Lanarmon

Fel cyn athrawes Gymraeg yr ysgol Uwchradd leol, gwn yn dda am gyfraniad gwerthfawr Ysgol Llanystumdwy i feithrin Cymry da o ran iaith a pharch at ddiwylliant. Gresynaf yn fawr os y collir hyn ym môr o Seisnigrwydd Cricieth lle mae'r rhelyw o blant o gartrefi nad yw'r Gymraeg yn iaith yr aelwyd. Os na wnawn ni ddal gafael yn ein diwylliant fe'i collir am byth. Dim ond un waith y mae modd colli iaith.

Gwenda Lloyd Morus o Bontllyfni

Mae'r hyn mae Ricghard Hughes a'i Gyngor yn ei wneud yn hurt! Pam na allen nhw drafod a siarad gyda'r bobl hyn sydd wedi eu ethol. Mae angen ail edrych ar y sefyllfa yn arbennig ysgolion sydd a nifer mwy na 40 o ddisgyblion!

Geraldine Hackman from Llanystumdwy

Llanystumdwy School is a vital resource in our community. The school must be saved not only for our children but for all the children to come.

Pam Hughes from Penygroes

I was a pupil at this wonderful school for 7 years, as were my Father and Sister. To close a former Prime Minister's school would be a great shame and also detrimental to the community.

Dylan Griffith o Lanystumdwy

Dim ysgol, dim cymuned.

Helen O'Shea Ellis o Finffordd

Cynghorwyr Gwynedd dangoswch rhywfaint o barch i gymunedau Cymreig. O Gyngor sydd wedi bod yn cynllunio dros y blynyddoedd diwethaf yma i annog pobl ifanc i aros yn y Gymru Gymraeg ac i ymwrthod a mudo i ddinasoedd poblog Cymru, mae'r stratefgaeth yma a'r cynllun yn anhygoel. Ni fydd neb ar ol i hyrwyddo dymuniad y Cyngor i weld pobl ifanc yn "Llwyddo'n Lleol". Dyna oedd y gri fawr gan y Prif Swyddog yn y blynyddoedd diwethaf sef arhoswch yn y Gymru Wledig. Parhaed y dymuniad yma ond nid drwy gau yr ysgolion gwledig debyg?

Gwilym Evans o Ysgol Garndolbenmaen

Dewch gynghorwyr Gwynedd pleidleiswch o'ch calon ar y 12fed o Ragfyr a taflwch y cynllun Trefniadaeth Ysgolion hurt yma i'r tan.

Tudur Evans o Aberystwyth

Fel cyn ddisgbl yn sicr ni fydd canolbwynt gymunedol o gwbwl i'r pentref.

Rhiannon Ingman o Chwilog

Pwysig cadw cymdeithas bentrefol, a chadw'r iaith Gymraeg yn fyw. Byddai ymuno a ysgol tref Saesnigaidd yn cael effaith niweidiol iawn ar iaith y plant gwledig.

Laura Lloyd Hughes o Lanystumdwy

Oeddwn i yn yr ysgol yna 8 mlynedd yn ol! 26 o ddisgyblion oedd yno bryd hynu, mae nhw yn deud wrthai wan ei bod hi wedi dwblu os nad treblu mewn niferoedd!! Mae'n rhaid eu bod nhw yn neud rhywbeth yn iawn! a dylai esiampl gael ei wneud or ysgol ar gymuned! mae hi yn ysgol sydd yn gweithio, a mae hi yn gymuned clos, maer ysgol yn galon ir pentref! fel da ni wedi bod yn protestio CAU YSGOL...COLLI CYMUNED! Ac yn wir i chi dyna ddigwyddith!! "ghost town" fydd hi wedyn...dim ysgol...dim carnifal...dim urdd...dim pel droed ar ôl ysgol.

Robat Jones o'r Groeslon

Mi fyddai cau Ysgol Llanystumdwy yn cael effaith ddifrifol ar y gymuned leol rwy'n ofni. Mae 'na ddwywaith cymaint o blant yn mynychu'r Ysgol heddiw i gymharu a phan roeddwn i'n ddisgybl yno yn y 1980au, felly mae'r honiad for niferoedd disgyblion yn disgyn yn glir yn anghywir. Does dim modd i unrhyw un ddweud na fydd cau ysgol fach yn niweidio cymuned glos fel Llanystumdwy: all cau'r Ysgol (calon y gymuned) ddim ond ledio i ddiwedd y gymdeithas a'r gymuned yn y pen draw. Y ffaith yw nad oes un ystadegun yn unman yn profi fod ysgolion mwy yn darparu addysg well, does 'na ddim un chwaith yn profi nad ydi cau ysgol bentref yn niweidiol. Fel rhiant newydd, roeddwn i wedi gobeithio cael symud yn ol i fy mhentref genedigol i fyw, fel bod fy merch yn cael yr un budd o fod yn rhan o Ysgol, o gymuned, ac o holl weithgareddau Llanystumdwy ag y ges i. Heb os mae'r profiadau hynny y cefais yn blentyn yn Llanystumdwy wedi fy helpu i a llawer eraill i fynd ymlaen yn y byd. Heb y cyfleoedd hanfodol yma mewn oed mor bwysig i blant ifanc, pwy a wyr pa effaith gaiff hyn ar fywydau ein plant ni? Nid ysgol yn cau yn unig sydd mewn peryg yma, ond yn hytrach dechrau'r diwedd i gymuned glos Llanystumdwy. Ysgol Llanystumdwy: 1812-am byth.