Ymunwch â'r rhestr bostio
Arwyddwch y Ddeiseb
Join the Mailing List
Sign the Petition
Oriel Luniau'r Ymgyrch | Campaign Photo Gallery

Ymgyrch Achub Ysgol Llanystumdwy
Save Llanystumdwy School Campaign

Please scroll down for the English version

Croeso i Wefan Swyddogol Ymgyrch Achub Ysgol Llanystumdwy.

Welcome to the Official Save Llanystumdwy School Campaign Website

Canlyniadau'r Etholiadau Cyngor Lleol 01.05.2008

The 01.05.2008 Local Council Election Results

Dafydd Iwan Dos i Ganu 02.05.2008: Plaid yn colli cadarnle

  »  Darllen yr adroddiad ar wefan y BBC

06.05.2008: Llais: Methu cydweithio â Plaid

  »  Darllen yr adroddiad ar wefan y BBC

02.05.2008: Plaid loses majority in Gwynedd

  »  Read the report on the BBC website

06.05.2008: Llais Gwynedd group's no to Plaid

  »  Read the report on the BBC website

Cyfrannu yn ariannol i'r ymgyrch i Achub Ysgol Llanystumdwy                Contribute financially to the Save Llanystumdwy School campaign

Yng ngeiriau'r Cyngor, mae "pob peth yn bosib" felly mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cael eich cyfraniadau chi er mwyn cael digon o wybodaeth i gefnogi ein hymgyrch.

Os gallwch chi helpu, yna gyrrwch eBost i gyda'r wybodaeth (adroddiadau, lluniau, ystadegau, gwaith ymchwil, ayb.) ac fe'i rhown ar y wefan.

Bwriad y wefan yw ein galluogi fel rhieni, pentrefwyr a chefnogwyr yn gyffredinol i drafod cynlluniau'r Cyngor, i drefnu gweithgareddau, i rannu gwybodaeth ac i uno fel un llais a dweud:

NA I GAU YSGOL LLANYSTUMDWY!

Diolch ymlaen llaw.

Arbed yr Ysgol: Achub y Pentref | Save the School: Rescue the Village

Ysgol Llanystumdwy: 1812 - am byth

Wrth siarad am sefyllfa hen ysgol David Lloyd George (yn Y Cymro), mae Arthur Thomas yn ysgrifennu:

"Yr hyn oedd wedi cythruddo pobl Llanystumdwy oedd y bwriad yn y cynllun i gau'r ysgol leol ac ysgol gyfagos Cricieth gan adeiladu un ysgol rhyngddynt. Mae chwe deg a saith o blant yn ysgol Llanystumdwy, nid chwech na saith cofiwch ond 67. Mae hwn yn bentref Cymraeg, bywiog, gyda dau dîm pêl-droed, cymdeithasau, y capel a'r dafarn. Os yw ysgol gyda'r nifer hwn o blant o dan fygythiad, pa obaith sydd i ysgolion bach cefn gwlad yn gyffredinol, ac yn y pen draw, i'r iaith Gymraeg?"

Gwir iawn Arthur. Yn yr oes a fu, plaid y werin bobl oedd Plaid Cymru: plaid i fod yn falch ohoni ac i bleidleisio drosti er lles dyfodol yr iaith a hawliau'r Cymry, ond ddim rhagor yn anffodus. Bellach, ymddengys nad yw'r bobl bach ddim byd ond rhyw 'hindrans' sy'n rhwystro 'cynlluniau mawr pwysig' rhag mynd drwadd yn rhwydd. Y gwir biti yw fod ceisio gwthio'r 'cynlluniau mawr pwysig' 'ma drwadd (gan ddefnyddio nifer o wahanol esboniadau a rhesymau - a r'un ohonynt yn gwneud unrhyw synnwyr) yn arwydd cryf nad yw Plaid Cymru yn cofio pwy sy'n eu cefnogi a'u hethol.

Gynghorwyr Gwynedd: rydym fel Cymry yn erfyn arnoch i wrthod y cynllun cau/aildrefnu/ffedaraleiddio/newid trefn/[meddyliwch am derm a'i roi yma] ysgolion Gwynedd. Plis, gwnewch hyn cyn iddi fod yn rhy hwyr i'n ysgolion, i'n cymunedau ac i'n hiaith. Os am ddim rheswm arall, gwnewch hyn er mwyn dyfodol eich Plaid!



In the words of the Council, "everything is possible" so it is more important than ever that we get your contributions so that we have plenty of information and evidence to support our campaign.

If you can help, please send an eMail to along with the information (reports, photographs, statistics, research, etc.) and we'll put it live on the web.

The intention of website is to allow us as parents, villagers and supporters in general to discuss and dissect the Council's proposals, to arrange activities and meetings, to share information, and to unite as one voice to say:

NO TO THE CLOSURE OF LLANYSTUMDWY SCHOOL!